The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau cymraeg i oedolion ar bob lefel Darperir ein cyrsiau yn rhithiol ac mewn lleoliadau amrywiol ar ffurf cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a gweithle.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cysylltiol newydd i ymgymryd a gwaith fesul awr o lefel blasu hyd at lefel hyfedredd yn ddibynnu ar brofiad.
Mae'r swydd hon yn un fesul awr, am gyfnod penodol, hyd at 31 Gorffennaf 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu ag Anna Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Cyflog: 32,332 - 34,980 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2023
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau'r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi'u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.